Friday 20 May 2011

Eisteddfod yr Urdd gyda'r Jacks

Wedi'r holl ymarferion, sgrechion, crio, tynnu gwallt a distawrwydd llethol wrth ddrysau rhagbrofion ac wrth ddisgwyl canlyniadau, mae'r amser wedi cyrraedd i aelodau'r Urdd y Rhanbarth wneud eu ffordd lawr i Abertawe er mwyn cystadlu ar brif lwyfan ieuenctid Cymru.  Dyma fydd pinacl llawer o blant a phobl ifanc led-led y wlad.  Dyma gyfle iddynt gael dangos eu doniau ac i gael cyhoeddusrwydd ar hyd a lled y wlad ac erbyn hyn drwy'r dechnoleg ddiweddaraf y byd.  Pwy fyddai'n meddwl fod Anti Henrietta o Chicago yn gallu gweld a chlywed Joni bach yn perfformio ar lwyfan yr Urdd o fewn eiliadau iddo wneud y perfformiad.  Anhygoel!!!

Mae yna garfan gryf o berfformwyr yn gwneud y daith lawr i Abertawe o Feirionnydd eleni.  Mae yna rai yn canu, dawnsio, llefaru ac yn edrych i gael y llwyddiant mae'r ymdrech maent wedi ei roi i'r paratoi yn ei haeddu.  Mae'r ffaith fod cymaint yn paratoi ar gyfer y daith yn adlewyrchiad o faint mae'r Eisteddfod a'r Urdd yn feddwl i aelodau Meirionnydd.  Mae pawb yn mynd lawr mewn gobaith o gael llwyddiant ond un peth sydd yn sicr fe fydd digon o hwyl i gael gyda 'pobl ni' os fydd ennill neu dim ond cyrraedd y rhagbrofion - da ni'n gwybod sut i fwynhau!

Er hynny, mae yna nifer fawr o blant a phobl ifanc wedi cael llwyddiannau eisoes!  Mae'r gwaith Celf, Dylunio a Thechnoleg wedi cael ei feirniadu ac fe fydd y gwaith yma yn cael ei arddangos yn y Babell drwy gydol yr wythnos.  Cofiwch fynd yna i weld y gweithiau arbennig yma.  Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cael llwyddiant yn yr adran yma.

Hwyrach fod Abertawe fel Dinas wedi gwirioni yn enfawr yr wythnos yma o'r ffaith fod y tîm pêl-droed wedi cael llwyddiant yn erbyn Nottingham Forest a chyrraedd y gem dyngedfennol ar gyfer gyrraedd yr Uwch-gynghrair ond fe fydd Cymru a Chymry i gyd yn elwa fod aelodau'r Urdd yn cael y cyfle i ymweld a'r Ddinas a chystadlu ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd.  Dyna fydd gwefr!

Hoffaf ddymuno pob llwyddiant i holl aelodau'r Rhanbarth ar y daith hudol gyda'r gobaith fydd y gwpan yn llawn a'r teimlad fod pawb wedi cyrraedd Uwch Gynghrair Eisteddfodol wrth deithio adref!

Wednesday 11 May 2011

Perfformiadau o'r radd uchaf gan Adran Deudraeth

Newydd dderbyn rhestr canlyniadau gan Swyddfa Chwaraeon yr Urdd ac mae'r nodiadau yn deud fod Adran Deudraeth wedi cael diwrnod arbennig iawn yn y Chwaraeon Cenedlaethol yn Aberystwyth.

Llwyddodd y tîm pêl-droed 7-bob-ochr i gyrraedd y gemau cyn-derfynol ac wedyn colli o un gôl i ddim yn erbyn Ysgol Dewi Sant

Er hynny,  llwyddodd y rhedwyr i wneud ychydig yn well.  Daeth genod blwyddyn 3 yn drydydd yn eu categori tu ôl i Llandysul a Llanishen Fach tra ddaeth merched blwyddyn 5 hefyd yn drydydd tu ôl i Ysgol Gyrmaeg Aberystwyth a Llanishen Fach unwaith eto.

Mae'n amlwg fod yr ymarfer wedi talu ar ei ganfed.  Dwi'n siwr fod pawb yn edrych ymlaen i gymryd rhan yn yr Eisteddfod yr Urdd yn Abertawe a chael pluen arall yn eu cap!!! 

Er na gafodd Adran Ffridd-y-llyn ac Ysgol y Traeth lwyddiant o gyrraedd y gemau terfynol, dwi'n siwr fod pawb wedi cael diwrnod llawn hwyl a chyffrous ac y bydd y profiad o fod yn Aberystwyth yn aros gyda hwy am flynyddoedd i ddod.  Da iawn i chi gyd

Hoffaf ddiolch yn fawr iawn i'r Ysgolion a'r Adrannau am gefnogi'r chwaraeon drwy'r flwyddyn ac hefyd i'r athrawon am eu hyfforddi ac i'r holl rieni am gefnogi'r Urdd yn gyson drwy'r flwyddyn.  Diolch i chi i gyd.

Sunday 8 May 2011

Chwaraeon Cenedlaethol 2011

Wedi diwrnod hir yn Aberystwyth, mae pawb wedi cyrraedd adref yn saff ac yn falch eu bod wedi bod yn rhan o Wyl arbennig iawn.  Lle ar wyneb y ddaear gall gymaint o blant a phobl ifanc ddod at eu gilydd i gystadlu mewn amrywiol chwaraeon ac hyn yn y Gymraeg. 

Roedd dros 550 o blant yn chwarae pel-droed a phel-rwyd tra fod yna gannoedd wedi gwneud y daith lawr i Aberystwyth er mwyn bod yn rhan o'r ras traws gwlad.  Anhygoel!

Fel arfer yn y 5-bob-ochr yr oeddwn i - ymhell o'r ganol a'r glaw, diolch byth.  Cafwyd gystadleuaeth arbennig gyda naw o dimau yn cymryd rhan.  Rhain oedd y gorau yn eu dosbarth gan eu bod  gyd yn enillwyr Rhanbarthol.

Er i Adran Ffridd-y-Llyn wneud yn arbennig a brywdro yn galed, nid oedd y tlws yn dod nol i Feirionnydd eleni.  Da ni wedi ei ennill yn y ddwy flynedd diwethaf a byddai ei wneud yn dair wedi bod yn hufen ar ben y gacen.  Ond doed dim rheswm i fod yn farus ac wedi bron i ugain o gemau, tim lleol o Geredigon oedd yn fyddugol - Llanfihangel-ar-Arth yn trechu Llangybi yn y gêm derfynol.  Da iawn iddynt.  Fe fydd Meirionnydd nol flwyddyn nesaf i geisio gipio'r brif wobr eto yn y 5-bob-ochr.

Cafwyd llwyddiannau yn y traws gwlad ond roedd y ffaith i Adran Deudraeth gyrraedd rownd y pedwar olaf yn y 7-bob-ochr yn werth popeth.  Da iawn chi !

Dydi bywyd ddim yn arafu - ymlaen i'r mabolgampau rwan!!  Cyfle i blant o'r 5 cylch ennill lle yn y mabolgampau Rhanbarthol ar 16 Mehefin yn Nolgellau.  Pob lwc i bawb.

Diolch i bawb am y gefnogaeth

Friday 22 April 2011

Pasg Hapus

Dwi'n siwr fod pawb yn falch fod y gwyliau wedi cyrraedd.  Mae'r tymor wedi bod yn un hir iawn. Roedd yna ddigon yn digwydd gyda'r uchafbwynt yn ystod mis Mawrth gyda'r Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth.

Llongyfarchiadau i bawb ar eu perfformiadau gan ddymuno hwyl fawr i'r rhai hynny fydd yn neud y daith lawr i Abertawe ar ddiwedd mis Mai er mwyn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.  Pob lwc i bawb!!!!!

Ymlaciwch a bwytewch eich wyau pasg mewn hedd!!!!!!!!

Tan tro nesa

Dylan