Wedi diwrnod hir yn Aberystwyth, mae pawb wedi cyrraedd adref yn saff ac yn falch eu bod wedi bod yn rhan o Wyl arbennig iawn. Lle ar wyneb y ddaear gall gymaint o blant a phobl ifanc ddod at eu gilydd i gystadlu mewn amrywiol chwaraeon ac hyn yn y Gymraeg.
Roedd dros 550 o blant yn chwarae pel-droed a phel-rwyd tra fod yna gannoedd wedi gwneud y daith lawr i Aberystwyth er mwyn bod yn rhan o'r ras traws gwlad. Anhygoel!
Fel arfer yn y 5-bob-ochr yr oeddwn i - ymhell o'r ganol a'r glaw, diolch byth. Cafwyd gystadleuaeth arbennig gyda naw o dimau yn cymryd rhan. Rhain oedd y gorau yn eu dosbarth gan eu bod gyd yn enillwyr Rhanbarthol.
Er i Adran Ffridd-y-Llyn wneud yn arbennig a brywdro yn galed, nid oedd y tlws yn dod nol i Feirionnydd eleni. Da ni wedi ei ennill yn y ddwy flynedd diwethaf a byddai ei wneud yn dair wedi bod yn hufen ar ben y gacen. Ond doed dim rheswm i fod yn farus ac wedi bron i ugain o gemau, tim lleol o Geredigon oedd yn fyddugol - Llanfihangel-ar-Arth yn trechu Llangybi yn y gêm derfynol. Da iawn iddynt. Fe fydd Meirionnydd nol flwyddyn nesaf i geisio gipio'r brif wobr eto yn y 5-bob-ochr.
Cafwyd llwyddiannau yn y traws gwlad ond roedd y ffaith i Adran Deudraeth gyrraedd rownd y pedwar olaf yn y 7-bob-ochr yn werth popeth. Da iawn chi !
Dydi bywyd ddim yn arafu - ymlaen i'r mabolgampau rwan!! Cyfle i blant o'r 5 cylch ennill lle yn y mabolgampau Rhanbarthol ar 16 Mehefin yn Nolgellau. Pob lwc i bawb.
Diolch i bawb am y gefnogaeth
No comments:
Post a Comment