Friday 20 May 2011

Eisteddfod yr Urdd gyda'r Jacks

Wedi'r holl ymarferion, sgrechion, crio, tynnu gwallt a distawrwydd llethol wrth ddrysau rhagbrofion ac wrth ddisgwyl canlyniadau, mae'r amser wedi cyrraedd i aelodau'r Urdd y Rhanbarth wneud eu ffordd lawr i Abertawe er mwyn cystadlu ar brif lwyfan ieuenctid Cymru.  Dyma fydd pinacl llawer o blant a phobl ifanc led-led y wlad.  Dyma gyfle iddynt gael dangos eu doniau ac i gael cyhoeddusrwydd ar hyd a lled y wlad ac erbyn hyn drwy'r dechnoleg ddiweddaraf y byd.  Pwy fyddai'n meddwl fod Anti Henrietta o Chicago yn gallu gweld a chlywed Joni bach yn perfformio ar lwyfan yr Urdd o fewn eiliadau iddo wneud y perfformiad.  Anhygoel!!!

Mae yna garfan gryf o berfformwyr yn gwneud y daith lawr i Abertawe o Feirionnydd eleni.  Mae yna rai yn canu, dawnsio, llefaru ac yn edrych i gael y llwyddiant mae'r ymdrech maent wedi ei roi i'r paratoi yn ei haeddu.  Mae'r ffaith fod cymaint yn paratoi ar gyfer y daith yn adlewyrchiad o faint mae'r Eisteddfod a'r Urdd yn feddwl i aelodau Meirionnydd.  Mae pawb yn mynd lawr mewn gobaith o gael llwyddiant ond un peth sydd yn sicr fe fydd digon o hwyl i gael gyda 'pobl ni' os fydd ennill neu dim ond cyrraedd y rhagbrofion - da ni'n gwybod sut i fwynhau!

Er hynny, mae yna nifer fawr o blant a phobl ifanc wedi cael llwyddiannau eisoes!  Mae'r gwaith Celf, Dylunio a Thechnoleg wedi cael ei feirniadu ac fe fydd y gwaith yma yn cael ei arddangos yn y Babell drwy gydol yr wythnos.  Cofiwch fynd yna i weld y gweithiau arbennig yma.  Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cael llwyddiant yn yr adran yma.

Hwyrach fod Abertawe fel Dinas wedi gwirioni yn enfawr yr wythnos yma o'r ffaith fod y tîm pêl-droed wedi cael llwyddiant yn erbyn Nottingham Forest a chyrraedd y gem dyngedfennol ar gyfer gyrraedd yr Uwch-gynghrair ond fe fydd Cymru a Chymry i gyd yn elwa fod aelodau'r Urdd yn cael y cyfle i ymweld a'r Ddinas a chystadlu ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd.  Dyna fydd gwefr!

Hoffaf ddymuno pob llwyddiant i holl aelodau'r Rhanbarth ar y daith hudol gyda'r gobaith fydd y gwpan yn llawn a'r teimlad fod pawb wedi cyrraedd Uwch Gynghrair Eisteddfodol wrth deithio adref!

No comments:

Post a Comment